Yn dilyn datganiad CNC ar 6 Tachwedd fod eu bwrdd wedi penderfynu peidio â chynnig gwasanaethau desg bwyd a gwybodaeth yn eu canolfannau mwyach. Mae CNC wedi cadarnhau ar gyfryngau cymdeithasol y bydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal am y penderfyniad a beth fydd yn digwydd nesaf.
Mewn post ar Facebook, dywedodd CNC:
Rydym yn cynnal tri chyfarfod cyhoeddus i ddiweddaru cymunedau ar ddyfodol canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Ynyslas a Choed y Brenin.
Yn dilyn penderfyniad gan ein bwrdd yn gynharach ym mis Tachwedd, ni fyddwn bellach yn rhedeg gweithrediadau arlwyo a manwerthu ar y safleoedd hyn.
Bydd ein holl lwybrau, meysydd parcio, mannau chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau ar agor.
Rydym bellach yn ymgysylltu â busnesau lleol a grwpiau cymunedol i chwilio am bartneriaid i redeg y gwasanaethau arlwyo a manwerthu.
Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn:
Neuadd Gymunedol y Borth, Stryd Fawr, y Borth, SY24 5LH, 25 Tachwedd, yn dechrau am 7pm.
Neuadd Penllwyn Capel Bangor, Aberystwyth, SY23 3LS, 26 Tachwedd, yn dechrau am 6.30pm.
Neuadd Bentref Ganllwyd, Llanfar Y Lli, Ganllwyd, LL40 2TF, 27 Tachwedd, yn dechrau am 6.30pm.
Nid oes angen archebu lle ond byddwch yn ymwybodol y gallai’r neuaddau fynd yn llawn.
Bydd rhagor o fanylion am fformat y cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi yn fuan.