Y Brotest Fawr Coed Y Brenin!

Dewch i Brotest Fawr Coed Y Brenin!

Hydref 5ed yng Nghoed Y Brenin

Ymunwch â ni i ddangos cefnogaeth i Goed y Brenin.

Diwrnod i feicio, rhedeg, cerdded a phrotestio yn erbyn y cynllun i gau canolfan ymwelwyr Coed y Brenin.

Rydym ni’n Caru Coed Y Brenin a felly mae’n ein gwneud ni’n drist pan ry’n ni’n gweld y ganolfan dan fygythiad, y llwybrau ddim yn cael eu cynnal a difaterwch cyffredinol Cyfoeth Naturiol Cymru tuag at y gymuned sy defnyddio ac yn dibynnu ar yr adnodd.

Mae’n siwr eich bod chi wedi cael sioc a siom o glywed am gynlluniau Cyfoeth Naturiol Cymru i gau Canolfan Ymwelwyr Coed Y Brenin  am gyfnod o hyd at 3 mlynedd.

Ymunwch gyda ni ym Mhrotest Fawr Coed Y Brenin i ddangos eich gwrthwynebiad i’r cau a’r cam reoli difrifol sydd wedi arwain at y sefyllfa yma. Gyda siaradwyr gwadd yn cynnwys Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor. Dewch yn llu  a’ch baneri a’ch beiciau, eich esgidiau cerdded a’d placardiau, eich plant a phwysicaf oll eich llais.

Dewch i ddangos i Cyfoeth Naturiol Cymru pa mor bwysig yw Coed Y Brenin i chi.

Bydd teithiau beic a rhedeg yn dechrau o 12yp gyda’r prif brotest am 2yp.

Methu dod ond am gefnogi? https://gofund.me/a9a8ac5e